CYNNWYS

CARTREF

TIRLUNIAU NOS

GALERI TIRLUNIAU NOS

ARCHEBU

MAPIAU

COMISIYNAU

CARTWNAU

DARLUNIAU

TEITHIO

SGYRSIAU

CEFNDIR

bull

CYSYLLTU

Delweddau Gareth Roberts

e-bost:
gareth@
garethrobertsimages.co.uk

Ffôn:
01286 872462

Ffôn Symudol: 07867 810576

MAPIAU

map sec


Dyma gyfres llwyddiannus o gyfrolau lliwgar a gloyw sydd yn mapio hanes ac archaeoleg yn y tirwedd o’n gwmpas ac yn barod i’w ‘gerdded a darganfod’. Comisiynau ydynt gan Gynghorau ac Asiantaethau Amgylcheddol a Gefn Gwlad. Mae’r mapiau yn cynnwys adluniau o dirweddau ac adeiladau coll ac yn boblogaidd ymysg cerddwyr profiadol a di-brofiad, plant, teuluoedd, ymwelwyr ac ysgolion. Gyda rhagor o fapiau ar y gweill bydd copiau i’w gael yn y Ganolfan Gerdded a Darganfod sydd yn cael ei sefydlu gennyf ar y cyd a Menter Fachwen yn Llanberis, Gwynedd.

MAPIAU 2013

LLANDDEINIOLEN (2ail FERSIWN), LLANBEDROG, LLANNOR,NEFYN A LLYN PADARN.maps2

 

PLAS GLYN Y WEDDW (2012)

Dyma fap o’r tiroedd, coedwigoedd, adeiladau a datblygiadau o amgylch Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog ger Pwllheli. Mae’r Oriel wedi darganfod ac atgyweirio hen lwybrau o oes Fictoria ac agor amffitheatr newydd. Gosodwyd yr pamffledi gan gwmni ‘Mwnci Bach’ (www.mwncibach.com) ac mae’r map yn cynnwys rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Cerwch i ‘www.oriel.org.uk’ am rhagor o wybodaeth am Plas Glyn y Weddw..

PLAS

 

ARDAL LLANENGAN AC ABER-SOCH
(2011)

O losgfynyddoedd erchyll i longdrylliadau a gwersyll cyfrinachol yn perthyn i’r Ail Ryfel Byd, mae gan bob llwybr cyhoeddus o fewn plwyf Llanengan (55km ohonynt) stori i’w ddweud.

llanengan

ARDAL LLANRUG A CHWM Y GLO
(2010)

O ysbrydion i wersyll Cromwell, mae’r map hwn yn hanfodol i gerddwyr o bob dawn.

llanrug

PAMFFLEDI TWRISTIAID A SIOPAU LLANBERIS (2010)

Taflenni hanfodol i dwristiaid ac ymwelwyr.

llanberis

CYLCHDAITH LLYN PADARN
(2010)

Comisiynwyd gan MENTER FACHWEN, mae’r map yn adrodd hanesion popeth sydd i’w darganfod ar daith 4 milltir o amgylch Llyn Padarn, Llanberis. Hwn o bosib yw’r daith gerdded mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Hanesion o 600,000,000 o flynyddoedd yn ol i’r presennol.

 

Padarn

 

ARDAL LLANDDEINIOLEN
(2009)

Mae bron 100 milldir o lwybrau i;w gerdded a darganfod yn Llanddeiniolen, y plwyf mwyaf yng Nghymru sydd yn ymestyn o gopa fynydd Elidir Fawr bron at yr Afon Menai.

Llandeiniolen